R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
1. Elin Jones (Ceredigion): Pa effaith y disgwylir y bydd cael gwared ar y Gronfa Ariannol wrth Gefn i brifysgolion yn ei chael ar fyfyrwyr? OAQ(4)0465(ESK)
2. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lleihau maint dosbarthiadau ysgolion yng Nghymru? OAQ(4)0464(ESK)
3. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Twf Swyddi Cymru yn Sir y Fflint? OAQ(4)0469(ESK)
4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ysgolion ffydd? OAQ(4)0455(ESK)
5. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ganlyniadau'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd? OAQ(4)0454(ESK)
6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant ag anghenion addysgol arbennig yng Nghymru? OAQ(4)0452(ESK)
7. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi ei asesiad o effaith y toriadau yn ei gyllideb dros yr haf ar bobl ifanc? OAQ(4)0463(ESK)W
8. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r cwricwlwm ysgol gynradd newydd? OAQ(4)0457(ESK)
9. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed gan yr Athro Donaldson yn ei adolygiad o'r cwricwlwm TGAU? OAQ(4)0459(ESK)
10. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y pynciau a gaiff eu trafod drwy wersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol mewn ysgolion yng Nghymru? OAQ(4)0456(ESK)
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddyfodol y Gronfa Ariannol Wrth Gefn ar gyfer addysg uwch? OAQ(4)0453(ESK)
12. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gynnydd a wnaed i ddatblygu cydweithrediad rhwng ysgolion a cholegau ynglŷn â Llwybrau Dysgu 14-19? OAQ(4)0467(ESK)W
13. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o addysg uwch yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0468(ESK)
14. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido addysg uwch yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0462(ESK)
15. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y toriad o 8% yn y cyllid a roddir i'r rhaglen Cymraeg i Oedolion? OAQ(4)0460(ESK)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
1. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud hyd yma gyda'r sefydliad Sirolli yng nghymoedd de Cymru? OAQ(4)0449(EST)
2. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus o ran gwneud y gorau o gyfleoedd twristiaeth? OAQ(4)0454(EST)
3. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0453(EST)
4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar hyrwyddo Cymru fel lleoliad ar gyfer twristiaeth? OAQ(4)0457(EST)
5. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses o gyflwyno band eang cyflym iawn yng Nghymru? OAQ(4)0446(EST)
6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r hyn sy'n cael ei wneud i hyrwyddo datblygiad y sector ariannol yng Nghymru? OAQ(4)0441(EST)
7. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer amaethyddiaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0445(EST)
8. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiadau ffordd rhwng Canolbarth a Gorllewin Cymru a gorllewin canolbarth Lloegr? OAQ(4)0443(EST)
9. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gamau y cymerodd y Gweinidog yn ddiweddar i gyflawni ei hamcanion o ddatblygu system drafnidiaeth integredig? OAQ(4)0452(EST)W
10. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar fanteision economaidd y gwasanaethau post cyffredinol i fusnesau yng Nghymru? OAQ(4)0455(EST)
11. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar wella cysylltedd trafnidiaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0442(EST)
12. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y broses o gyflwyno band eang cyflym iawn yn Islwyn? OAQ(4)0444(EST)
13. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun benthyciadau dechrau busnes Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0456(EST)
14. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella llif traffig o fewn trefi a dinasoedd yng Nghymru? OAQ(4)0447(EST)
15. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y rhagolygon cyflogaeth yng Nghymru? OAQ(4)0448(EST)